Titus 2:1-5
Titus 2:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, gwna’n siŵr dy fod ti’n dysgu pobl sut i fyw bywydau sy’n gyson â dysgeidiaeth gywir. Dysga’r dynion mewn oed i ymddwyn yn gyfrifol. Dysga nhw i fyw mewn ffordd sy’n ennyn parch pobl, ac i fod yn bwyllog. Dylen nhw fod yn hollol ffyddlon, yn llawn cariad ac yn dal ati drwy bopeth. Dysga’r gwragedd hŷn yr un fath i fyw fel y dylai rhywun sy’n gwasanaethu’r Arglwydd fyw. Dylen nhw beidio hel clecs maleisus, a pheidio yfed gormod. Yn lle hynny dylen nhw ddysgu eraill beth sy’n dda, a bod yn esiampl i’r gwragedd iau o sut i garu eu gwŷr a’u plant. Dylen nhw fod yn gyfrifol, cadw eu hunain yn bur, gofalu am eu cartrefi, bod yn garedig, a bod yn atebol i’w gwŷr. Os gwnân nhw hynny, fydd neb yn gallu dweud pethau drwg am neges Duw.
Titus 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach. Dywed wrth yr hynafgwyr am fod yn sobr, yn weddus, yn ddisgybledig, yn iach mewn ffydd a chariad a dyfalbarhad. Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win; dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwŷr a charu eu plant, i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i'w gwŷr, fel na chaiff gair Duw enw drwg.
Titus 2:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus: Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.