Titus 1:1-4
Titus 1:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i’n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi’u dewis yn dod i gredu, a’u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw. Mae’n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma’r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd! Pan ddaeth yr amser iawn daeth â’r newyddion da i’r golwg a rhoi’r cyfrifoldeb i mi i’w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn. Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i: Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw y Tad a’r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni.
Titus 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul, gwas Duw ac apostol Iesu Grist, sy'n ysgrifennu, yn unol â ffydd etholedigion Duw, a gwybodaeth o'r gwirionedd sy'n gyson â'n crefydd ni, yn seiliedig yn y gobaith am fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau'r oesoedd, ac ef hefyd yn ei amser ei hun a ddatguddiodd ei air yn y neges a bregethir. Ymddiriedwyd y neges hon i mi ar orchymyn Duw, ein Gwaredwr. Yr wyf yn cyfarch Titus, fy mhlentyn diledryw yn y ffydd sy'n gyffredin inni. Gras a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Gwaredwr.
Titus 1:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb; I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd; Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni.