Caniad Solomon 8:1-14
Caniad Solomon 8:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O na fyddet ti fel brawd bach i mi, wedi’i fagu ar fron fy mam; byddwn yn dy gusanu di’n agored, a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i. Af â ti i dŷ fy mam, yr un ddysgodd bopeth i mi. Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau, gwin melys fy mhomgranadau. Mae ei law chwith dan fy mhen, a’i law dde yn fy anwesu. Ferched Jerwsalem, dw i’n pledio arnoch: Pam trio cyffroi cariad rhywiol cyn ei fod yn barod? Pwy sy’n dod o gyfeiriad yr anialwch yn pwyso ar fraich ei chariad? Cynhyrfais di dan y goeden afalau. Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu, a dyna ble cest ti dy eni. Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl-fodrwy ar dy law. Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth, ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â’r bedd. Mae ei fflamau’n fflachio’n wyllt, fel tân sy’n llosgi’n wenfflam. All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad; all llifogydd mo’i ysgubo i ffwrdd. Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano, byddai’n ddim byd ond testun sbort. Mae gynnon ni chwaer fach a’i bronnau heb dyfu. Beth wnawn ni i’w helpu pan gaiff ei haddo i’w phriodi? Os ydy hi’n saff fel wal, gallwn ei haddurno gyda thyrau arian! Os ydy hi fel drws, gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd! Roeddwn i fel wal, ond bellach mae fy mronnau fel tyrau, felly dw i’n gwbl aeddfed yn ei olwg e. Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon, a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid. Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth. Mae’r mil o ddarnau arian i ti, Solomon, a dau gant i’r rhai sy’n gofalu am ei ffrwyth; ond mae fy ngwinllan i i mi’n unig. Ti sy’n aros yn y gerddi, mae yna ffrindiau’n gwrando am dy lais; ond gad i mi fod yr un sy’n ei glywed. Brysia, fy nghariad! – bydd fel gasél neu garw ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.
Caniad Solomon 8:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O na fyddit yn frawd i mi, wedi dy fagu ar fronnau fy mam! Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu, ac ni fyddai neb yn fy nirmygu. Byddwn yn dy arwain a'th ddwyn i dŷ fy mam a'm hyfforddodd, a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti, sudd fy mhomgranadau. Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch. Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod. Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch, yn pwyso ar ei chariad? Deffroais di dan y pren afalau, lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi, lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr. Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth, a nwyd mor greulon â'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol. Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr. Y mae gennym chwaer fach sydd heb fagu bronnau. Beth a wnawn i'n chwaer pan ofynnir amdani? Os mur yw hi, byddwn yn adeiladu caer arian arno; os drws, byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd. Mur wyf fi, a'm bronnau fel tyrau; yn ei olwg ef yr wyf fel un yn rhoi boddhad. Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon; pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr, yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth. Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun; fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian, a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant. Ti sy'n eistedd yn yr ardd, a chyfeillion yn gwrando ar dy lais, gad i mi dy glywed. Brysia allan, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig, neu'r hydd ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.
Caniad Solomon 8:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y’th gawn allan, cusanwn di; eto ni’m dirmygid. Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau. Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai. Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun. Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg. Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt. Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny. Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani? Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd. Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd. Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal-hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian. Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi. O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed. Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.