Rhufeiniaid 9:1-24
Rhufeiniaid 9:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n dweud y gwir fel Cristion – heb air o gelwydd. Mae nghydwybod i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân yn tystio fy mod i’n ddigalon iawn ac yn poeni drwy’r amser am fy mhobl, yr Iddewon. Byddwn i’n barod i gael fy melltithio a’m gwahanu oddi wrth y Meseia petai hynny’n gwneud lles iddyn nhw! Fy mhobl i ydyn nhw – y genedl dw i’n perthyn iddi. Pobl Israel sydd wedi cael eu mabwysiadu gan Dduw yn blant iddo’i hun. Nhw welodd ei ysblander. Ymrwymodd y byddai’n gofalu amdanyn nhw. Nhw gafodd y Gyfraith ganddo, a dysgu sut i’w addoli yn iawn. Nhw dderbyniodd yr addewidion i gyd! Eu hanes nhw ydy hanes Abraham, Isaac, Jacob a’i feibion, a nhw ydy’r genedl roedd y Meseia yn perthyn iddi fel dyn. Fe sy’n rheoli popeth, yn Dduw i gael ei foli am byth! Amen! Ond dydy Duw ddim wedi torri ei air! Na! Achos dydy pawb sy’n perthyn i wlad Israel ddim yn bobl Israel go iawn. A dydy profi eich bod chi’n ddisgynyddion i Abraham ddim yn golygu eich bod wir yn blant iddo. Beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ydy, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.” Hynny ydy, dydy pawb sy’n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy’n blant go iawn i Abraham ydy’r rhai sy’n blant o ganlyniad i addewid Duw. Dyma’r addewid wnaeth Duw: “Bydda i’n dod yn ôl yr adeg yma y flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Ac wedyn rhaid cofio beth ddigwyddodd i’r gefeilliaid gafodd Isaac a Rebecca. A chofiwch fod hyn wedi digwydd cyn iddyn nhw gael eu geni, pan oedden nhw heb wneud dim byd drwg na da (sy’n dangos fod Duw’n gwneud beth mae’n ei addo yn ei ffordd ei hun. Fe sy’n dewis, dim beth dŷn ni’n ei wneud sy’n cyfri.) Dwedodd Duw wrth Rebecca, “Bydd y mab hynaf yn was i’r ifancaf.” Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i wedi caru Jacob, ond gwrthod Esau.” Beth mae hyn yn ei olygu? Ydy e’n dangos fod Duw yn annheg? Wrth gwrs ddim! Dwedodd Duw wrth Moses, “Fi sy’n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i’n mynd i dosturio wrthyn nhw.” Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i’r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni’n ei gyflawni. Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy’r byd i gyd ddod i wybod amdana i.” Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae’n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae’n ei ddewis yn ystyfnig. “Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i’w ewyllys?” Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi’i siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam wyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’” Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio’r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel? A’r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a’i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda’r rhai sy’n haeddu dim byd ond cosb, ac sy’n dda i ddim ond i gael eu dinistrio! Ac mae’n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a’i rannu gyda’r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi’u paratoi ar gyfer hynny o’r dechrau cyntaf. Ac ie, ni ydy’r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd!
Rhufeiniaid 9:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar fy ngwir yng Nghrist, heb ddim anwiredd—ac y mae fy nghydwybod, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, yn fy ategu— y mae fy ngofid yn fawr, ac y mae gennyf loes ddi-baid yn fy nghalon. Gallwn ddymuno i mi fy hunan fod dan felltith, ac yn ysgymun oddi wrth Grist, pe bai hynny o les iddynt hwy, fy nghyd-Iddewon i, fy mhobl i o ran cig a gwaed. Israeliaid ydynt; eu heiddo hwy yw'r mabwysiad, y gogoniant, y cyfamodau, y Gyfraith, yr addoliad a'r addewidion. Iddynt hwy y mae'r hynafiaid yn perthyn, ac oddi wrthynt hwy, yn ôl ei linach naturiol, y daeth y Meseia. I'r Duw sy'n llywodraethu'r cwbl boed bendith am byth. Amen. Ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. Oherwydd nid yw pawb sydd o linach Israel yn wir Israel. Ac ni ellir dweud bod pawb ohonynt, am eu bod yn ddisgynyddion Abraham, yn blant gwirioneddol iddo. Yn hytrach, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.” Hynny yw, nid y plant o linach naturiol Abraham, nid y rheini sy'n blant i Dduw. Yn hytrach, plant yr addewid sy'n cael eu cyfrif yn ddisgynyddion. Oherwydd dyma air yr addewid: “Mi ddof yn yr amser hwnnw, a chaiff Sara fab.” Ond y mae enghraifft arall hefyd. Beichiogodd Rebeca o gyfathrach ag un dyn, sef ein tad Isaac. Eto i gyd, cyn geni'r plant a chyn iddynt wneud dim, na da na drwg (fel bod bwriad Duw, sy'n gweithredu trwy etholedigaeth, yn dal mewn grym, yn dibynnu nid ar weithredoedd dynol ond ar yr hwn sy'n galw), fe ddywedwyd wrthi, “Bydd yr hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.” Fel y mae'n ysgrifenedig: “Jacob, fe'i cerais, ond Esau, fe'i caseais.” Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif! Y mae'n dweud wrth Moses: “Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.” Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw. Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.” Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled. Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?” Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, “Pam y lluniaist fi fel hyn?” Oni all y crochenydd lunio beth bynnag a fynno o'r clai? Onid oes hawl ganddo i wneud, o'r un telpyn, un llestr i gael parch a'r llall amarch? Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio? Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant. A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd.
Rhufeiniaid 9:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, Fod i mi dristyd mawr, a gofid di-baid i’m calon. Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion; Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi-rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;) Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf. Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais. Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw. Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau. Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear. Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu. Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef? Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fel hyn? Onid oes awdurdod i’r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch? Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth: Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant, Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenhedloedd?