Rhufeiniaid 8:28-30
Rhufeiniaid 8:28-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni’n gwybod fod Duw’n trefnu popeth er lles y rhai sy’n ei garu – sef y rhai mae wedi’u galw i gyflawni ei fwriadau. Roedd yn gwybod pwy fyddai’n bobl iddo, ac roedd wedi’u dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i’w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy’r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd.) Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato’i hun. Mae’n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e’i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw.
Rhufeiniaid 8:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer. A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd.
Rhufeiniaid 8:28-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer. A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.