Rhufeiniaid 7:7-9
Rhufeiniaid 7:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly beth mae hyn yn ei olygu? Ydw i’n awgrymu fod y Gyfraith roddodd Duw yn beth drwg? Wrth gwrs ddim! Heb y Gyfraith fyddwn i ddim yn gwybod mod i’n pechu. Sut fyddwn i’n gwybod fod chwennych yn beth drwg oni bai fod Cyfraith Duw yn dweud “Paid chwennych” Ond yna roedd pechod yn gweld ei gyfle ac yn defnyddio’r gorchymyn i wneud i mi chwennych pob math o bethau drwg. Heb y Gyfraith mae pechod gystal â bod yn farw! Ar un adeg roeddwn i’n gallu byw yn ddigon hapus heb y Gyfraith. Ond wedyn cafodd y gorchymyn ei roi a dyma bechod yn codi ei ben hefyd.
Rhufeiniaid 7:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? Mai pechod yw'r Gyfraith? Ddim ar unrhyw gyfrif! I'r gwrthwyneb, ni buaswn wedi gwybod beth yw pechod ond trwy'r Gyfraith, ac ni buaswn yn gwybod beth yw chwant, oni bai fod y Gyfraith yn dweud, “Na chwennych.” A thrwy'r gorchymyn hwn cafodd pechod ei gyfle, a chyffroi ynof bob math o chwantau drwg. Oherwydd, heb gyfraith, peth marw yw pechod. Yr oeddwn i'n fyw, un adeg, heb gyfraith
Rhufeiniaid 7:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf, Na thrachwanta. Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant. Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw.