Rhufeiniaid 6:1-14
Rhufeiniaid 6:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi’n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni? Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i’r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd? Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni’n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i’r Meseia Iesu, roedden ni’n uniaethu â’i farwolaeth e. Wrth gael ein bedyddio, cawson ni’n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o’r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd. Os ydyn ni wedi’n huno â’i farwolaeth, dŷn ni’n siŵr o gael ein huno hefyd â’i atgyfodiad. Mae beth roedden ni’n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda’r Meseia, er mwyn i’r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy. Os ydy rhywun wedi marw, mae’n rhydd o afael pechod. Ond os ydyn ni wedi marw gyda’r Meseia dŷn ni’n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd! Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi’i godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach. Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e’n byw i glodfori Duw! Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â’r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw. Peidiwch gadael i bechod reoli’ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i’w chwantau. Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o’ch corff i’w ddefnyddio i wneud beth sy’n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a’ch defnyddio chi i wneud beth sy’n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd. Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy’n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi’ch gollwng chi’n rhydd!
Rhufeiniaid 6:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau? Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo? A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth? Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd. Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef. Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod. Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd, a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef. Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint â'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw. Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu. Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau. Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da. Ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.
Rhufeiniaid 6:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef? Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gyd-blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef: Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef: Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras.