Rhufeiniaid 5:8-9
Rhufeiniaid 5:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond mae Duw yn dangos i ni gymaint mae’n ein caru ni: mae’r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn! Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi’i dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni’n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi!
Rhufeiniaid 5:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid. A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y mae'n sicrach fyth y cawn ein hachub trwyddo ef rhag y digofaint.
Rhufeiniaid 5:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef.