Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 5:13,17 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 5:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi’r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i’w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl.

Rhufeiniaid 5:17 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy’n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol.

Rhufeiniaid 5:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif.

Rhufeiniaid 5:17 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae'n wir i farwolaeth, trwy drosedd yr un, deyrnasu trwy'r un hwnnw; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: pobl sy'n derbyn helaethrwydd gras Duw, a'i gyfiawnder yn rhodd, yn cael byw a theyrnasu trwy un dyn, Iesu Grist.

Rhufeiniaid 5:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf.

Rhufeiniaid 5:17 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist.