Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 4:1-12,16

Rhufeiniaid 4:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i’w ddysgu i ni am hyn i gyd? Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw. Dyma mae’r ysgrifau’n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Pan mae rhywun yn gweithio mae’n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae’n ei haeddu, dim fel rhodd. Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e’i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e’i hun wedi’i wneud. Mae’r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd. Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae’n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy’n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny): “Mae’r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi’u bendithio’n fawr! y rhai sydd â’u pechodau wedi’u symud o’r golwg am byth. Mae’r rhai dydy’r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi’u bendithio’n fawr!” Ai dim ond Iddewon (sef ‘pobl yr enwaediad’) sy’n cael profi’r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‘pobl sydd heb enwaediad’)? Gadewch i ni droi’n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai drwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw . Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd drwy’r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu! Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o’r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi’i dderbyn i berthynas iawn ag e’i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy’n credu ond ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. Ond mae hefyd yn dad i’r rhai sy’n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod drwy’r ddefod ond am eu bod wedi credu, yr un fath ag Abraham.

Rhufeiniaid 4:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef? Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim. Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus. Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder. Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith: “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau; gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.” Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, “cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder”. Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl. Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sêl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt. Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.