Rhufeiniaid 3:10-18
Rhufeiniaid 3:10-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl! Does neb sy’n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!” “Mae eu geiriau’n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.” “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.” “Maen nhw’n barod iawn i ladd; mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman, Dŷn nhw’n gwybod dim am wir heddwch.” “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.”
Rhufeiniaid 3:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oes neb cyfiawn, nac oes un, neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un. Bedd agored yw eu llwnc, a'u tafodau'n traethu twyll; gwenwyn nadredd dan eu gwefusau, a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd. Cyflym eu traed i dywallt gwaed, distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd; nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd; nid oes ofn Duw ar eu cyfyl.”
Rhufeiniaid 3:10-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: Buan yw eu traed i dywallt gwaed: Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: A ffordd tangnefedd nid adnabuant: Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.