Rhufeiniaid 3:1-9
Rhufeiniaid 3:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly oes unrhyw fantais bod yn Iddew? Oes unrhyw bwynt i’r ddefod o enwaediad? Oes! Mae llond gwlad o fanteision! Yn gyntaf, yr Iddewon gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am neges Duw. Mae’n wir fod rhai ohonyn nhw wedi bod yn anffyddlon, ond ydy hynny’n golygu wedyn fod Duw ddim yn gallu bod yn ffyddlon? Wrth gwrs ddim! Mae Duw bob amser yn dweud y gwir er bod “y ddynoliaeth yn gelwyddog” . Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn am Dduw: “Mae beth rwyt ti’n ddweud yn iawn; byddi’n ennill yr achos pan fyddi ar brawf.” Ond ydyn ni’n mynd i ddadlau wedyn, “Mae’r pethau drwg dŷn ni’n eu gwneud yn dangos yn gliriach fod Duw yn gwneud beth sy’n iawn, felly mae Duw yn annheg yn ein cosbi ni”? (A dyna sut mae rhai pobl yn dadlau.) Wrth gwrs ddim! Sut fyddai Duw’n gallu barnu’r byd oni bai ei fod yn gwneud beth sy’n iawn? Neu ydy’n iawn dadlau fel yma?: “Mae’r celwydd dw i’n ddweud yn dangos yn gliriach fod Duw yn dweud y gwir, ac mae’n ei anrhydeddu e! Felly pam dw i’n dal i gael fy marnu fel pechadur?” Na! Waeth i ni ddweud wedyn, “Gadewch i ni wneud drwg er mwyn i ddaioni ddod o’r peth”! Ac oes, mae rhai’n hel straeon sarhaus mai dyna dŷn ni yn ei ddweud! … Maen nhw’n haeddu beth sy’n dod iddyn nhw! Felly beth ydyn ni’n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi dangos fod pechod yn rheoli’n bywydau ni fel pawb arall!
Rhufeiniaid 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wyneb hyn, pa ragorfraint sydd i'r Iddew? Pa werth sydd i'r enwaediad? Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw. Ond beth os bu rhai yn anffyddlon? A all eu hanffyddlondeb hwy ddileu ffyddlondeb Duw? Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau, a gorchfygu wrth gael dy farnu.” Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.) Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd? Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur? “Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn”—ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad. Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.
Rhufeiniaid 3:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn. Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod