Rhufeiniaid 2:3-5 - Compare All Versions
Rhufeiniaid 2:3-5 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ond wyt ti felly’n meddwl y byddi di’n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra’n gwneud yn union yr un pethau dy hun! Neu wyt ti’n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw drwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd? Ond na, rwyt ti’n rhy ystyfnig! Felly rwyt ti’n storio mwy a mwy o gosb i ti dy hun ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw’n barnu. A bydd Duw’n barnu’n hollol deg.
Rhufeiniaid 2:3-5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw? Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch? Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan stôr o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw.
Rhufeiniaid 2:3-5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw