Rhufeiniaid 2:3-4
Rhufeiniaid 2:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wyt ti felly’n meddwl y byddi di’n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra’n gwneud yn union yr un pethau dy hun! Neu wyt ti’n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw drwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd?
Rhufeiniaid 2:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw? Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch?
Rhufeiniaid 2:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?