Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 16:13,18 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 16:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Cofion at Rwffus, gwas arbennig i’r Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd.

Rhufeiniaid 16:18 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu’r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw’n twyllo pobl ddiniwed gyda’u seboni a’u gweniaith.

Rhufeiniaid 16:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cyfarchwch Rwffus, sy'n Gristion dethol, a'i fam, sy'n fam i minnau.

Rhufeiniaid 16:18 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

oherwydd nid gwasanaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn.

Rhufeiniaid 16:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau.

Rhufeiniaid 16:18 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.