Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 15:18-21 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 15:18-21 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Wna i ddim meiddio sôn am ddim arall! Mae’r Meseia wedi gwneud i bobl o’r cenhedloedd ufuddhau i Dduw. Mae wedi defnyddio beth dw i’n ei ddweud a’i wneud, ac wedi cyflawni gwyrthiau rhyfeddol drwy nerth yr Ysbryd Glân. Dw i wedi cyhoeddi’r newyddion da am y Meseia yr holl ffordd o Jerwsalem i dalaith Ilyricwm. Beth dw i wedi ceisio’i wneud ydy cyhoeddi’r newyddion da lle doedd neb wedi sôn am y Meseia o’r blaen. Does gen i ddim eisiau adeiladu ar sylfaen mae rhywun arall wedi’i gosod. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud eto: “Bydd pobl na ddwedodd neb wrthyn nhw amdano yn gweld, a rhai oedd heb glywed amdano yn deall.”

Rhufeiniaid 15:18-21 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

oherwydd nid wyf am feiddio sôn am ddim ond yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi, yn y dasg o ennill y Cenhedloedd i ufuddhau iddo, mewn gair a gweithred, trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum. Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed sôn am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall; fel y mae'n ysgrifenedig: “Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld, a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall.”

Rhufeiniaid 15:18-21 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall: Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt-hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant.