Rhufeiniaid 15:1-3
Rhufeiniaid 15:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylen ni sy’n credu’n gryf ein bod ni’n gwybod beth sy’n iawn feddwl bob amser am y rhai sy’n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio’n hunain, gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a’u gwneud nhw’n gryf. Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia – fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.”
Rhufeiniaid 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio â'n plesio ein hunain. Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd. Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi.”
Rhufeiniaid 15:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.