Rhufeiniaid 14:6-9
Rhufeiniaid 14:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Mae’r rhai sy’n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai’r Arglwydd sy’n ei roi, drwy ddiolch i’r Arglwydd amdano. Ond mae’r rhai sy’n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd, ac yn rhoi’r diolch i Dduw. Dŷn ni ddim yn byw i’r hunan nac yn marw i’r hunan. Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw. Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a’r rhai sy’n dal yn fyw.
Rhufeiniaid 14:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r sawl sy'n cadw'r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a'r sawl sy'n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae'n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae'r un sy'n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae'n rhoi diolch i Dduw. Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain. Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. P'run bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a'r byw.
Rhufeiniaid 14:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw. Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd.