Rhufeiniaid 13:1-4
Rhufeiniaid 13:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae’r awdurdodau presennol wedi’u rhoi yn eu lle gan Dduw. Mae rhywun sy’n gwrthwynebu’r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi’i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. Does dim rhaid ofni’r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy’n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy’n iawn a chei dy ganmol. Wedi’r cwbl mae’r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti’n gwneud drygioni, mae’n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae’n gwasanaethu Duw drwy gosbi’r rhai sy’n gwneud drwg.
Rhufeiniaid 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw. Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain. Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo. Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr.
Rhufeiniaid 13:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo: Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg.