Rhufeiniaid 13:1-3
Rhufeiniaid 13:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae’r awdurdodau presennol wedi’u rhoi yn eu lle gan Dduw. Mae rhywun sy’n gwrthwynebu’r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi’i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. Does dim rhaid ofni’r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy’n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy’n iawn a chei dy ganmol.
Rhufeiniaid 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw. Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain. Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo.
Rhufeiniaid 13:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo