Rhufeiniaid 12:6-8
Rhufeiniaid 12:6-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi’r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt ti’n gwybod fod Duw am i ti wneud. Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti’r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny’n gydwybodol. Os wyt ti’n rhywun sy’n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti’r ddawn i arwain, gwna hynny’n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny’n llawen.
Rhufeiniaid 12:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd. Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori. Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.
Rhufeiniaid 12:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.