Rhufeiniaid 1:2-4
Rhufeiniaid 1:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Rhufeiniaid 1:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Addawodd Duw yr Efengyl hon ymlaen llaw trwy ei broffwydi yn yr Ysgrythurau sanctaidd, Efengyl am ei Fab: yn nhrefn y cnawd, ganwyd ef yn llinach Dafydd; ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, â mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. Dyma Iesu Grist ein Harglwydd.
Rhufeiniaid 1:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
(Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw