Rhufeiniaid 1:18-23 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Rhufeiniaid 1:18-23 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi’r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw’n mygu’r gwirionedd gyda’u drygioni. Mae beth sydd i’w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi’i wneud yn ddigon clir i bawb. Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi’u creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu! Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw’n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw’n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn! Yn lle addoli’r Duw bendigedig sy’n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi’u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.
Rhufeiniaid 1:18-23 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd. Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt. Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus. Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall. Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid. Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid.
Rhufeiniaid 1:18-23 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.