Rhufeiniaid 1:13-16
Rhufeiniaid 1:13-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod. Mae’n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i’w thalu! Dim ots os ydyn nhw’n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu’n farbariaid cwbl ddi-addysg. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi’r newyddion da. Does gen i ddim cywilydd o’r newyddion da o gwbl. Dyma’r ffordd rymus mae Duw’n gweithio i achub pawb sy’n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.
Rhufeiniaid 1:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro. Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion—yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll. A dyma'r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu'r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain. Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.
Rhufeiniaid 1:13-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr.