Datguddiad 9:3-4
Datguddiad 9:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma locustiaid yn dod allan o’r mwg i lawr ar y ddaear, ac roedd y gallu i ladd fel sgorpionau wedi’i roi iddyn nhw. Dyma nhw’n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i’r glaswellt a’r planhigion a’r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed.
Datguddiad 9:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r mwg daeth locustiaid allan ar y ddaear, a rhoddwyd iddynt allu tebyg i'r gallu sydd gan ysgorpionau'r ddaear. Dywedwyd wrthynt am beidio â niweidio na phorfa'r ddaear na'r un planhigyn na choeden, ond yn unig y bobl nad oedd sêl Duw ganddynt ar eu talcennau.
Datguddiad 9:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod. A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.