Datguddiad 8:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Datguddiad 8:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i’w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i’w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl.
Rhanna
Datguddiad 8 BNETDatguddiad 8:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd.
Rhanna
Datguddiad 8 BCNDDatguddiad 8:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc.
Rhanna
Datguddiad 8 BWM