Datguddiad 22:18-19
Datguddiad 22:18-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n rhybuddio pawb sy’n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â’r plâu sy’n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw. Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a’u lle yn y ddinas sanctaidd sy’n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.
Datguddiad 22:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi'n rhybuddio pob un sy'n clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: os ychwanega unrhyw un ddim atynt, fe ychwanega Duw iddo yntau y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. Ac os tyn unrhyw un ddim allan o eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, fe dynn Duw ei ran yntau allan o bren y bywyd, ac o'r ddinas sanctaidd, y pethau yr ysgrifennwyd amdanynt yn y llyfr hwn.
Datguddiad 22:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.