Datguddiad 2:1-17
Datguddiad 2:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Effesus: ‘Dyma beth mae’r un sy’n dal y saith seren yn ei law dde ac yn cerdded rhwng y saith canhwyllbren aur yn ei ddweud: Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Rwyt ti’n gweithio’n galed ac wedi dal ati. Dw i’n gwybod dy fod ti ddim yn gallu diodde’r bobl ddrwg hynny sy’n honni eu bod nhw yn gynrychiolwyr personol i’r Meseia Iesu, ond sydd ddim go iawn. Rwyt ti wedi profi eu bod nhw’n dweud celwydd. Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino. Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn. Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti’n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd. Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae’r Nicolaiaid yn ei wneud. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna: ‘Dyma beth mae’r Cyntaf a’r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw: Dw i’n gwybod dy fod ti’n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti’n gyfoethog go iawn!) Dw i’n gwybod hefyd dy fod ti’n cael dy sarhau gan y rhai sy’n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw! Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi drwy eich taflu i’r carchar. Bydd pethau’n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy’n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy’n cael ei alw yn “ail farwolaeth”.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus: ‘Dyma beth mae’r un sydd â’r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud: Dw i’n gwybod dy fod ti’n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e’n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i. Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau a phechu’n rhywiol. A’r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy’n dilyn beth mae’r Nicolaiaid yn ei ddysgu. Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os wnei di ddim, bydda i’n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda’r cleddyf sydd yn fy ngheg. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr yn cael bwyta’r manna sydd wedi’i gadw o’r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi’i ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy’n derbyn y garreg.’
Datguddiad 2:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
At angel yr eglwys yn Effesus, ysgrifenna: “Dyma y mae'r hwn sy'n dal y saith seren yn ei law dde, ac yn cerdded yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd a'th lafur a'th ddyfalbarhad, a gwn na elli oddef y rhai drwg; gwn dy fod wedi rhoi prawf ar y rhai sy'n eu galw eu hunain yn apostolion a hwythau heb fod felly, a chefaist hwy'n gelwyddog; ac y mae gennyt ddyfalbarhad, a dygaist faich trwm er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, iti roi heibio dy gariad cynnar. Cofia, felly, o ble y syrthiaist, ac edifarha, a gwna eto dy weithredoedd cyntaf. Os na wnei, ac os nad edifarhei, fe ddof atat a symud dy ganhwyllbren o'i le. Ond y mae hyn o'th blaid, dy fod fel minnau yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof yr hawl i fwyta o bren y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.” Ac at angel yr eglwys yn Smyrna, ysgrifenna: “Dyma y mae'r cyntaf a'r olaf, yr hwn a fu farw ac a ddaeth yn fyw, yn ei ddweud: Gwn am dy orthrymder a'th dlodi, ac eto yr wyt yn gyfoethog; gwn hefyd am gabledd y rhai sy'n eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly, ond yn hytrach yn synagog Satan. Paid ag ofni'r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, y mae'r diafol yn mynd i fwrw rhai ohonoch i garchar er mwyn eich profi, ac fe gewch orthrymder am ddeg diwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhof iti goron y bywyd. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Y sawl sy'n gorchfygu, ni chaiff niwed gan yr ail farwolaeth.” Ac at angel yr eglwys yn Pergamus, ysgrifenna: “Dyma y mae'r hwn sydd â'r cleddyf llym daufiniog ganddo yn ei ddweud: Gwn ym mhle yr wyt yn trigo, sef lle mae gorsedd Satan; ac eto yr wyt yn glynu wrth f'enw i, ac ni wedaist dy ffydd ynof fi, hyd yn oed yn nyddiau fy nhyst Antipas, a fu'n ffyddlon i mi ac a laddwyd yn eich mysg chwi, lle mae Satan yn trigo. Ond y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, fod gennyt rai yna sy'n glynu wrth athrawiaeth Balaam, a ddysgodd i Balac osod magl i blant Israel, a pheri iddynt fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, a phuteinio; yn yr un modd, y mae gennyt tithau hefyd rai sy'n glynu wrth athrawiaeth y Nicolaiaid. Edifarha felly; os na wnei, fe ddof atat yn fuan, a rhyfela yn eu herbyn hwy â chleddyf fy ngenau. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof gyfran o'r manna cuddiedig, a rhof hefyd garreg wen, ac yn ysgrifenedig ar y garreg enw newydd na fydd neb yn ei wybod ond y sawl sydd yn ei derbyn.”
Datguddiad 2:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf. Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di. Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw. Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gystudd, a’th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan. Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y’ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth. Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu. Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.