Datguddiad 19:1-16
Datguddiad 19:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio’n debyg i dyrfa enfawr o bobl yn y nefoedd yn gweiddi: “Haleliwia! Duw sy’n achub; a fe biau’r anrhydedd a’r nerth! Mae ei ddyfarniad e bob amser yn deg ac yn gyfiawn. Mae wedi condemnio’r butain fawr a lygrodd y ddaear gyda’i hanfoesoldeb rhywiol. Mae wedi dial arni hi am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.” A dyma nhw’n gweiddi eto: “Haleliwia! Mae’r mwg sy’n codi ohoni yn para byth bythoedd.” Dyma’r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a’r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu: “Amen! Haleliwia!” Wedyn dyma lais yn dod o’r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw! Pawb sy’n ei wasanaethu, a chi sy’n ei ofni, yn fawr a bach!” Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio’n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel: “Haleliwia! Mae’r Arglwydd Dduw Hollalluog wedi dechrau teyrnasu. Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd, ac mae’r ferch sydd i’w briodi wedi gwneud ei hun yn barod. Mae hi wedi cael gwisg briodas o ddefnydd hardd, disglair a glân.” (Mae’r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.) Wedyn dyma’r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae’r rhai sy’n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi’u bendithio’n fawr!’” Wedyn dyma fe’n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae’n wir.” Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a’i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy’r unig un rwyt i’w addoli! Un sy’n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a dy frodyr a dy chwiorydd sy’n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi’i rhoi gan Iesu. Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.” Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o mlaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‘Yr Un ffyddlon’ ydy’r enw arno, a’r ‘Un gwir’. Mae’n gyfiawn yn y ffordd mae’n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion. Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi’i ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe’i hun. Roedd yn gwisgo dillad oedd wedi’u trochi mewn gwaed, a’i enw oedd ‘Gair Duw’. Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân. Roedd cleddyf miniog yn dod allan o’i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro’r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru’r gwinwryf (sy’n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog). Ar ei glogyn wrth ei glun mae’r teitl hwn wedi’i ysgrifennu: BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.
Datguddiad 19:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl hyn clywais sŵn fel llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dweud: “Halelwia! Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a'r gogoniant a'r gallu, oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef, gan iddo farnu'r butain fawr a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, a dial gwaed ei weision arni hi.” A dywedasant eilwaith: “Halelwia! Bydd ei mwg hi'n codi byth bythoedd.” Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud: “Amen! Halelwia!” A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, a'r rhai sy'n ei ofni ef, yn fach a mawr.” A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud: “Halelwia! Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau teyrnasu. Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo'r gogoniant, oherwydd daeth dydd priodas yr Oen, ac ymbaratôdd ei briodferch ef. Rhoddwyd iddi hi i'w wisgo liain main disglair a glân, oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.” Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.” Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.” Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela. Yr oedd ei lygaid fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun. Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw. Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo â lliain main disgleirwyn. O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu â gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog. Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: “Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi.”
Datguddiad 19:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i’r Arglwydd ein Duw ni: Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd. A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia. A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd. Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog. Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun. A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn. Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth. Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela. A’i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun: Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw. A’r lluoedd oedd yn y nef a’i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân. Ac allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro’r cenhedloedd ag ef: ac efe a’u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog. Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.