Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 13:17 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Datguddiad 13:17 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw’r marc, sef enw’r anghenfil neu’r rhif sy’n cyfateb i’w enw.

Datguddiad 13:17 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.

Datguddiad 13:17 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw ef.