Datguddiad 10:9-10
Datguddiad 10:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma fi’n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma’r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi’n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.” Dyma fi’n cymryd y sgrôl fechan o law yr angel ac yn ei bwyta. Roedd yn blasu’n felys fel mêl yn fy ngheg, ond ar ôl ei llyncu trodd yn chwerw yn fy stumog.
Datguddiad 10:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgrôl fechan imi, ac atebodd fi: “Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel mêl yn dy enau.” Cymerais y sgrôl fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel mêl yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw.
Datguddiad 10:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi’r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl. Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel, ac a’i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw.