Salm 78:5-8
Salm 78:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob, a sefydlu ei gyfraith yn Israel. Gorchmynnodd i’n hynafiaid eu dysgu i’w plant, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf wybod sef y plant sydd heb eu geni eto – iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant. Iddyn nhw ddysgu trystio Duw a pheidio anghofio’r pethau mawr mae’n eu gwneud. Iddyn nhw fod yn ufudd i’w orchmynion, yn lle bod fel eu hynafiaid yn tynnu’n groes ac yn ystyfnig; cenhedlaeth oedd yn anghyson, ac yn anffyddlon i Dduw.
Salm 78:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fe roes ddyletswydd ar Jacob, a gosod cyfraith yn Israel, a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid, i'w dysgu i'w plant; er mwyn i'r to sy'n codi wybod, ac i'r plant sydd heb eu geni eto ddod ac adrodd wrth eu plant; er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw, a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw, ond cadw ei orchmynion; rhag iddynt fod fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar, yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
Salm 78:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef: Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.