Salm 74:1-17
Salm 74:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Dduw, pam wyt ti’n ddig gyda ni drwy’r amser? Pam mae dy ffroenau’n mygu yn erbyn defaid dy borfa? Cofia’r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl, y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti! Dyma Fynydd Seion, lle rwyt ti’n byw! Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma, a’r holl niwed mae’r gelyn wedi’i wneud i dy deml! Roedd dy elynion yn rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr; a gosod eu harwyddion a’u symbolau eu hunain yno. Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeill wrth glirio drysni a choed, yn dryllio’r holl waith cerfio cywrain gyda bwyeill a morthwylion. Yna rhoi dy gysegr ar dân, a dinistrio’n llwyr y deml lle roeddet ti’n aros. “Gadewch i ni ddinistrio’r cwbl!” medden nhw. A dyma nhw’n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir. Does dim arwydd o obaith i’w weld! Does dim proffwyd ar ôl, neb sy’n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara. O Dduw, am faint mwy mae’r gelyn yn mynd i wawdio? Ydy e’n mynd i gael sarhau dy enw di am byth? Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth? Pam wyt ti’n dal yn ôl? Plîs, gwna rywbeth! O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o’r dechrau! Ti ydy’r Duw sy’n gweithredu ac yn achub ar y ddaear! Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti’r môr. Ti ddrylliodd bennau’r ddraig yn y dŵr. Ti sathrodd bennau Lefiathan, a’i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch. Ti agorodd y ffynhonnau a’r nentydd, a sychu llif yr afonydd. Ti sy’n rheoli’r dydd a’r nos; ti osododd y lleuad a’r haul yn eu lle. Ti roddodd dymhorau i’r ddaear; haf a gaeaf – ti drefnodd y cwbl!
Salm 74:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth? Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt, y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti, a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo. Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol; dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr. Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr, a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno. Y maent wedi malurio, fel coedwigwyr yn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed. Rhwygasant yr holl waith cerfiedig a'i falu â bwyeill a morthwylion. Rhoesant dy gysegr ar dân, a halogi'n llwyr breswylfod dy enw. Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn hwy i gyd”; llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir. Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach; ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd. Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr? A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth? Pam yr wyt yn atal dy law, ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes? Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed, yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear. Ti, â'th nerth, a rannodd y môr, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr. Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid. Eiddot ti yw dydd a nos, ti a sefydlodd oleuni a haul. Ti a osododd holl derfynau daear, ti a drefnodd haf a gaeaf.
Salm 74:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paham, DDUW, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. Pa hyd, DDUW, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. Canys DUW yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.