Salm 71:15-18
Salm 71:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder a'th weithredoedd achubol trwy'r amser, oherwydd ni wn eu nifer. Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW; soniaf am dy gyfiawnder di yn unig. O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau; a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid â'm gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi.
Salm 71:15-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydda i’n dweud am dy gyfiawnder. Bydda i’n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti’n achub; mae cymaint i’w ddweud! Dw i’n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud – fy meistr, fy ARGLWYDD – a dathlu’r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig! O Dduw, dw i wedi profi’r peth ers pan oeddwn i’n ifanc, ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu gwneud hyd heddiw. Dw i bellach yn hen a’m gwallt yn wyn, ond paid gadael fi nawr, O Dduw. Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddod am dy gryfder a’r pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud.
Salm 71:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder a'th weithredoedd achubol trwy'r amser, oherwydd ni wn eu nifer. Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW; soniaf am dy gyfiawnder di yn unig. O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau; a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid â'm gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi.
Salm 71:15-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt. Yng nghadernid yr Arglwydd DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi. O’m hieuenctid y’m dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. Na wrthod fi chwaith, O DDUW, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.