Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 7:1-17

Salm 7:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O ARGLWYDD, fy Nuw, dw i’n troi atat ti am loches. Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy’n fy erlid. Achub fi, rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo’n ddarnau, ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub. O ARGLWYDD, fy Nuw, os ydy e’n wir – os ydw i’n euog o wneud drwg, os ydw i wedi bradychu fy ffrind (ie, fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr), yna gad i’r gelyn ddod ar fy ôl i, a’m dal i. Gad iddo fy sathru dan draed, a’m gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr. Saib Cod, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti’n ddig, a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn! Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i, a dangos sut rwyt ti’n mynd i’w barnu nhw! Mae’r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas; eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau! Mae’r ARGLWYDD yn barnu’r cenhedloedd! Achub fy ngham, O ARGLWYDD, achos dw i wedi gwneud beth sy’n iawn. Dw i ddim ar fai. O Dduw cyfiawn, yr un sy’n treiddio’r meddwl a’r gydwybod, stopia’r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud. Ond gwna’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn gadarn. Mae’r Duw mawr fel tarian i mi; mae’n achub yr un sy’n byw’n iawn. Mae Duw yn farnwr cyfiawn, ond mae’n dangos bob dydd ei fod wedi digio wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod. Mae’n rhoi min ar ei gleddyf, yn plygu ei fwa ac yn anelu. Mae’n paratoi arfau marwol ac yn defnyddio saethau tanllyd i ymladd yn eu herbyn. Edrychwch! Mae’r dyn drwg wrthi eto! Mae’n feichiog o ddrygioni, ac yn geni dim byd ond twyll! Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill, bydd yn syrthio i’w drap ei hun! Bydd y drwg mae’n ei wneud yn ei daro’n ôl, a’i drais yn ei fwrw ar ei dalcen. A bydda i’n moli’r ARGLWYDD am fod mor gyfiawn, ac yn canu emyn o fawl i enw’r ARGLWYDD Goruchaf.

Salm 7:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

ARGLWYDD fy NUW, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi. Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd. O ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo; O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;) Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela. Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist. Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder. Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd: barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof. Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y DUW cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau. Fy amddiffyn sydd o DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon. DUW sydd Farnydd cyfiawn, a DUW sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol. Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd. Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr. Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd. Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth. Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun. Clodforaf yr ARGLWYDD yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.