Salm 67:1-7
Salm 67:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Dduw, dangos drugaredd aton ni a’n bendithio ni. Bydd yn garedig aton ni. Saib Wedyn bydd pawb drwy’r byd yn gwybod sut un wyt ti; bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti’n gallu achub. Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di! Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi’n llawen, am dy fod ti’n barnu’n hollol deg, ac yn arwain cenhedloedd y ddaear. Saib Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di! Mae’r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni! O Dduw, ein Duw, dal ati i’n bendithio. O Dduw, bendithia ni! Wedyn bydd pobl drwy’r byd i gyd yn dy addoli.
Salm 67:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio, bydded llewyrch ei wyneb arnom, Sela er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear, a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd. Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di. Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu, oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir, ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear. Sela Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di. Rhoes y ddaear ei chnwd; Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd. Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.
Salm 67:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi. Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi. Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia. DUW a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.