Salm 66:10-20
Salm 66:10-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ti wedi’n profi ni, O Dduw, a’n puro ni fel arian mewn ffwrnais. Ti wedi’n dal ni mewn rhwyd, a gwneud i ni ddioddef baich trwm. Ti wedi gadael i bobl farchogaeth droson ni. Dŷn ni wedi bod drwy ddŵr a thân, ond ti wedi dod â ni drwy’r cwbl i brofi digonedd. Dw i’n dod i dy deml ag offrymau llosg ac yn cadw fy addewidion, drwy wneud popeth wnes i addo pan oeddwn i mewn trafferthion. Dw i’n dod ag anifeiliaid wedi’u pesgi yn offrymau llosg – arogl hyrddod yn cael eu llosgi, teirw a geifr yn cael eu haberthu. Saib Dewch i wrando, chi sy’n addoli Duw, i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi. Dyma fi’n gweiddi’n uchel arno am help – roeddwn i’n barod i’w foli. Petawn i’n euog o feddwl yn ddrwg amdano, fyddai’r ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i. Ond dyma Duw yn clywed, a gwrando ar fy ngweddi. Mae Duw yn haeddu ei foli! Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi, na bod yn anffyddlon i mi.
Salm 66:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw, ac yn ein coethi fel arian. Dygaist ni i'r rhwyd, rhoist rwymau amdanom, gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau, aethom trwy dân a dyfroedd; ond dygaist ni allan i ryddid. Dof i'th deml â phoethoffrymau, talaf i ti fy addunedau, a wneuthum â'm gwefusau ac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf. Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau, a hefyd hyrddod yn arogldarth; darparaf ychen a bychod geifr. Sela Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw, ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi. Gwaeddais arno â'm genau, ac yr oedd moliant ar fy nhafod. Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon, ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando; ond yn wir, gwrandawodd Duw, a rhoes sylw i lef fy ngweddi. Bendigedig fyddo Duw am na throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.
Salm 66:10-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys profaist ni, O DDUW: coethaist ni, fel coethi arian. Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall. Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau, Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder. Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela. Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid. Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod. Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd. DUW yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi. Bendigedig fyddo DUW, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.