Salm 53:1-3
Salm 53:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim ond ffŵl sy’n meddwl wrtho’i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd. Does neb yn gwneud daioni! Mae Duw yn edrych i lawr o’r nefoedd ar y ddynoliaeth i weld a oes unrhyw un call, unrhyw un sy’n ceisio Duw. Ond mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn gwbl lygredig. Does neb yn gwneud daioni – dim un!
Salm 53:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywed yr ynfyd yn ei galon, “Nid oes Duw.” Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd; nid oes un a wna ddaioni. Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd ar ddynolryw, i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth ac yn ceisio Duw. Ond y mae pawb ar gyfeiliorn, ac mor llygredig â'i gilydd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un.
Salm 53:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni. Edrychodd DUW i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio DUW. Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.