Salm 51:11-19
Salm 51:11-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti, na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i. Gad i mi brofi’r wefr eto o gael fy achub gen ti, a gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti. Wedyn bydda i’n dysgu’r rhai sy’n gwrthryfela i dy ddilyn di, a bydd pechaduriaid yn troi atat ti. Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw. Ti ydy’r Duw sy’n fy achub i, a bydda i’n canu am dy faddeuant di. O ARGLWYDD, agor fy ngheg, i mi gael dy foli. Nid aberthau sy’n dy blesio di, a dydy offrwm i’w losgi ddim yn dy fodloni di. Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi’i ddryllio, calon wedi’i thorri, ac ysbryd sy’n edifar – wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw. Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi! Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto! Wedyn bydd aberthau sy’n cael eu cyflwyno’n iawn, ac offrymau cyflawn i’w llosgi, yn dy blesio di; a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.
Salm 51:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf. Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd. Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr, fel y dychwelo'r pechaduriaid atat. Gwared fi rhag gwaed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth, ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant. Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth; pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon. Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw. Gwna ddaioni i Seion yn dy ras; adeilada furiau Jerwsalem. Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir— poethoffrwm ac aberth llosg— yna fe aberthir bustych ar dy allor.
Salm 51:11-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf. Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat. Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder. ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant. Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni. Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi. Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem. Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.