Salm 50:1-10
Salm 50:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad, ac wedi galw pawb drwy’r byd i gyd i ddod at ei gilydd. Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un; mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander! Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel – mae tân yn difa popeth o’i flaen, ac mae storm yn rhuo o’i gwmpas. Mae’n galw ar y nefoedd uchod, a’r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl. “Galwch fy mhobl arbennig i mewn, y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.” Yna dyma’r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, am mai Duw ydy’r Barnwr. Saib “Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i’n siarad. Gwrando, Israel. Dw i’n tystio yn dy erbyn di. Duw ydw i, dy Dduw di! Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi, nac am gyflwyno offrymau i’w llosgi’n rheolaidd. Ond does gen i ddim angen dy darw di, na bwch gafr o dy gorlannau. Fi piau holl greaduriaid y goedwig, a’r anifeiliaid sy’n pori ar fil o fryniau.
Salm 50:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd; galwodd y ddaear o godiad haul hyd ei fachlud. O Seion, berffaith ei phrydferthwch, y llewyrcha Duw. Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw; bydd tân yn ysu o'i flaen, a thymestl fawr o'i gwmpas. Y mae'n galw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl: “Casglwch ataf fy ffyddloniaid, a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.” Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, oherwydd Duw ei hun sydd farnwr. Sela “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf; dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel; myfi yw Duw, dy Dduw di. Ni cheryddaf di am dy aberthau, oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron. Ni chymeraf fustach o'th dŷ, na bychod geifr o'th gorlannau; oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig, a'r gwartheg ar fil o fryniau.
Salm 50:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW. Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela. Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi. Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.