Salm 48:1-14
Salm 48:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD mor fawr ac mae’n haeddu ei foli yn ninas ein Duw ar ei fynydd cysegredig – y copa hardd sy’n gwneud yr holl fyd yn hapus. Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon, ydy dinas y Brenin mawr. Mae Duw yn byw yn ei chaerau, ac mae’n adnabyddus fel caer ddiogel. Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair, ac yn dod i ymosod gyda’i gilydd. Ond ar ôl ei gweld roedden nhw’n fud, wedi dychryn am eu bywydau, ac yn dianc mewn panig! Roedden nhw’n crynu drwyddynt, ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn, neu longau Tarshish yn cael eu dryllio gan wynt y dwyrain. Dŷn ni bellach yn dystion i’r math o beth y clywson ni amdano; yn ninas yr ARGLWYDD hollbwerus, sef dinas ein Duw – mae e wedi’i gwneud hi’n ddiogel am byth! Saib O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml am dy ofal ffyddlon. O Dduw, rwyt ti’n enwog drwy’r byd i gyd, ac yn haeddu dy foli! Rwyt ti’n sicrhau cyfiawnder. Mae Mynydd Seion yn gorfoleddu! Mae pentrefi Jwda yn llawen, o achos beth wnest ti. Cerdda o gwmpas Seion, dos reit rownd! Cyfra’r tyrau, edrych yn fanwl ar ei waliau, a dos drwy ei chaerau, er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa. Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser. Bydd e’n ein harwain ni tra byddwn ni byw.
Salm 48:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd. Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr. Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa. Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull ac wedi dyfod at ei gilydd; ond pan welsant, fe'u synnwyd, fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi; daeth dychryn arnynt yno, a gwewyr, fel gwraig yn esgor, fel pan fo gwynt y dwyrain yn dryllio llongau Tarsis. Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd, yn ninas ein Duw ni a gynhelir gan Dduw am byth. Sela O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb yng nghanol dy deml. Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear. Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder; bydded i Fynydd Seion lawenhau. Bydded i drefi Jwda orfoleddu oherwydd dy farnedigaethau. Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch, rhifwch ei thyrau, sylwch ar ei magwyrydd, ewch trwy ei chaerau, fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi, “Dyma Dduw! Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd, fe'n harwain yn dragywydd.”
Salm 48:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mawr yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW ni, yn ei fynydd sanctaidd. Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr. DUW yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa. Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd. Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst. Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor. Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr. Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela. Meddyliasom, O DDUW, am dy drugaredd yng nghanol dy deml. Megis y mae dy enw, O DDUW, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw. Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau. Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl. Canys y DUW hwn yw ein DUW ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.