Salm 47:1-9
Salm 47:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw! Mae’r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i’w ryfeddu, ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd. Mae’n gwneud i bobloedd ymostwng i ni, ni sy’n eu rheoli nhw. Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni – tir i Jacob, y bobl mae wedi’u caru, ymfalchïo ynddo. Saib Mae Duw wedi esgyn i’w orsedd, a’r dyrfa’n gweiddi’n llawen. Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a’r corn hwrdd yn seinio! Canwch fawl i Dduw, canwch! canwch fawl i’n brenin ni, canwch! Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd; Canwch gân hyfryd iddo! Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd. Mae e’n eistedd ar ei orsedd sanctaidd. Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu gyda phobl Duw Abraham. Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd; mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd.
Salm 47:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear. Fe ddarostwng bobloedd odanom, a chenhedloedd o dan ein traed. Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni, balchder Jacob, yr hwn a garodd. Sela Esgynnodd Duw gyda bloedd, yr ARGLWYDD gyda sain utgorn. Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl. Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear; canwch fawl yn gelfydd. Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd, y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd. Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull gyda phobl Duw Abraham; oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear— fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.
Salm 47:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd. Canys yr ARGLWYDD goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear. Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed. Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela. Dyrchafodd DUW â llawen floedd, yr ARGLWYDD â sain utgorn. Cenwch fawl i DDUW, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch. Canys Brenin yr holl ddaear yw DUW: cenwch fawl yn ddeallus. DUW sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae DUW ar orseddfainc ei sancteiddrwydd. Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo DUW: dirfawr y dyrchafwyd ef.