Salm 41:7-10
Salm 41:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd, ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi. “Mae’n diodde o afiechyd ofnadwy; fydd e ddim yn codi o’i wely byth eto.” Mae hyd yn oed fy ffrind agos – yr un roeddwn i’n ei drystio, yr un fu’n bwyta wrth fy mwrdd i – wedi troi yn fy erbyn i! Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i; gad i mi godi eto, i mi gael talu’n ôl iddyn nhw!
Salm 41:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r holl rai sy'n fy nghasáu yn sisial â'i gilydd, yn meddwl y gwaethaf amdanaf, ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo; y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto.” Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo, ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd, yn codi ei sawdl yn f'erbyn. O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi, imi gael talu'n ôl iddynt.
Salm 41:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy. Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn. Eithr ti, ARGLWYDD, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.