Salm 40:6-8
Salm 40:6-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau; mae hynny’n gwbl amlwg i mi! Ddim am aberthau i’w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti’n gofyn. Felly dyma fi’n dweud, “O Dduw, dw i’n dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di’n rheoli fy mywyd i.
Salm 40:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm— rhoddaist imi glustiau agored— ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”
Salm 40:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy NUW: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.