Salm 40:1-8
Salm 40:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl disgwyl yn frwd i’r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe’n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i’n gweiddi am help. Cododd fi allan o’r pwll lleidiog a’r mwd trwchus. Rhoddodd fy nhraed ar graig, a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu. Roedd gen i gân newydd i’w chanu – cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio’r ARGLWYDD. Mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr. Dydy e ddim yn troi am help at bobl sy’n brolio’u hunain ac yn dweud celwydd. O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint – wedi gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di. Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i’w cyfrif! Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau; mae hynny’n gwbl amlwg i mi! Ddim am aberthau i’w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti’n gofyn. Felly dyma fi’n dweud, “O Dduw, dw i’n dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di’n rheoli fy mywyd i.
Salm 40:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, cân o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll. Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm— rhoddaist imi glustiau agored— ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”
Salm 40:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a wyrant at gelwydd. Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy NUW: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.