Salm 34:1-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Salm 34:1-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am ganmol yr ARGLWYDD bob amser; a’i foli’n ddi-baid! Dw i am frolio’r ARGLWYDD. Bydd y rhai sy’n cael eu cam-drin yn clywed ac yn llawenhau! Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi. Gadewch i ni ei foli gyda’n gilydd!
Rhanna
Salm 34 BNETSalm 34:1-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau. Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu. Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
Rhanna
Salm 34 BCNDSalm 34:1-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. Yn yr ARGLWYDD y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.
Rhanna
Salm 34 BWM