Salm 32:1-5
Salm 32:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi’i fendithio’n fawr, mae ei bechodau wedi’u symud o’r golwg am byth. Mae’r un dydy’r ARGLWYDD ddim yn dal ati i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi’i fendithio’n fawr – yr un fyddai byth yn twyllo neb. Pan oeddwn i’n cadw’n ddistaw am y peth, roedd fy esgyrn yn troi’n frau ac roeddwn i’n tuchan mewn poen drwy’r dydd. Roeddet ti’n fy mhoenydio i nos a dydd; doedd gen i ddim egni, fel pan mae’r gwres yn llethol yn yr haf. Saib Ond wedyn dyma fi’n cyfaddef fy mhechod. Wnes i guddio dim byd. “Dw i’n mynd i gyffesu’r cwbl i’r ARGLWYDD,” meddwn i, ac er fy mod i’n euog dyma ti’n maddau’r cwbl. Saib
Salm 32:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd. Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau'n cwyno ar hyd y dydd. Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos; sychwyd fy nerth fel gan wres haf. Sela Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio â chuddio fy nrygioni; dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela
Salm 32:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.