Salm 19:7-9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Salm 19:7-9 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith – mae’n rhoi bywyd newydd i mi! Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth. Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy’n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni. Mae’r gorchymyn i barchu’r ARGLWYDD yn glir ac yn aros bob amser. Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir – mae e’n gwbl deg bob amser.
Salm 19:7-9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth; y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid; y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un.
Salm 19:7-9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. Deddfau yr ARGLWYDD sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y llygaid. Ofn yr ARGLWYDD sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.