Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 19:1-2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Salm 19:1-2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae’r nefoedd yn dangos ysblander Duw, a’r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo. Mae’r neges yn mynd allan bob dydd; mae i’w gweld yn amlwg bob nos!

Salm 19:1-2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.

Salm 19:1-2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant DUW; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.