Salm 18:16-18
Salm 18:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Estynnodd i lawr o’r uchelder a gafael ynof; tynnodd fi allan o’r dŵr dwfn. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig, a’r rhai sy’n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi. Dyma nhw’n ymosod pan oeddwn mewn helbul, ond dyma’r ARGLWYDD yn fy helpu i.
Rhanna
Darllen Salm 18Salm 18:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
Rhanna
Darllen Salm 18Salm 18:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer. Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi. Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.
Rhanna
Darllen Salm 18